Blog Post

Lansio Llyfr | Book Launch



                   

Ar ôl 130 mlynedd, mae dirgelion Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, 1893 wedi’u datrys gyda chyhoeddi cyfrol newydd ‘No One Remembers Pontypridd: The forgotten story of the 1893 National Eisteddfod of Wales’ gan Sheldon Phillips. Roedd tri o hen ewythrod yr awdur yn gysylltiedig â threfnu Eisteddfod 1893, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cyffredinol, David E. Phillips.


Yn anarferol, does dim adroddiad swyddogol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol hon, felly gyda rhagair gan Archdderwydd presennol Cymru, Myrddin ap Dafydd, mae'r gyfrol hon yn adrodd hanes anghofiedig a diddorol cais llwyddiannus Pontypridd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1893 – cais a welodd y dref yn curo Castell-nedd, Llanelli a CHICAGO! Mae’r gyfrol yn adrodd yr hanes yn llawn, o’r broses gynnig, i gynnal Eisteddfod Genedlaethol fwyaf y 19eg ganrif yn ôl y sôn, ac i’r hyn a ddigwyddodd ar ei hôl.


Yn ogystal â hanes Eisteddfod Genedlaethol 1893, mae'r awdur yn cynnig amlinelliad o ddatblygiad hanesyddol yr Eisteddfod Genedlaethol ynghyd â mewnwelediad i Bontypridd fel canolbwynt y byd Neo-Dderwyddon. Ceir hefyd sôn am fywyd yn ne Cymru yn y cyfnod; y twf cymdeithasol ac economaidd, ond gyda thlodi a thraseiedi y byd glofaol i’w gweld yn glir.

Mae'r llyfr yn gyfrol ddeniadol gyda delweddau a mapiau unigryw, gan gynnwys darluniau gwreiddiol o'r agoriad swyddogol ar ‘Rocking Stone’ enwog Pontypridd a seremoni cadeirio'r bardd.


Dywedodd Sheldon Phillips: "Rwy'n falch iawn o rannu’r stori gyfareddol hon o Eisteddfod Genedlaethol 1893 ym Mhontypridd er mwyn i’r Brifwyl gael ei chofnodi’n iawn. Rwy'n gobeithio fy mod i wedi llwyddo i ddal awyrgylch unigryw Eisteddfod 1893 ac y bydd hyn yn ysbrydoli pawb i gymryd rhan yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024."


Meddai Helen Prosser, Cadeirydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, "Rydyn ni'n gobeithio'n fawr y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2024 yn wahanol i'r ŵyl a

gynhaliwyd nol yn 1893, ac y bydd ein Prifwyl yn cael ei chofio am amser hir fel un o'r gwyliau gorau, gan ddod â phobl o bob oed a chefndir ynghyd i ddathlu ein hiaith a'n diwylliant mewn ffordd fywiog, groesawgar a chynhwysol.


"Rydyn ni wrth ein boddau i fod yn rhan o'r lansiad, wrth i ni ddathlu mai dim ond 500 diwrnod sydd i fynd cyn i'r Eisteddfod agor yma yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni’n llongyfarch Sheldon Phillips ar ei ymchwil a'i lyfr, ac edrychwn ymlaen at ddathlu lansio a llwyddiant cyfrol mor ddiddorol."


Bydd 'No One Remembers Pontypridd' yn cael ei lansio yn Amgueddfa Pontypridd rhwng 530pm a 730 y prynhawn ddydd Mercher 22 Mawrth 2023. Bydd cyfle i brynu copïau o'r llyfr wedi'u llofnodi gan yr awdur yn ystod y noson.


Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ewch i www.eisteddfod.cymru/2024.


After 130 years, the mysteries of the 1893 National Eisteddfod in Pontypridd have finally been unravelled with the publication of a new book ‘No One Remembers Pontypridd: The forgotten story of the 1893 National Eisteddfod of Wales’ by Sheldon Phillips. Three of the author’s great uncles were involved in the organisation of the 1893 Eisteddfod, including the General Secretary, David E. Phillips.


Unusually there was no official report for this National Eisteddfod, so with a foreword from the current Archdruid of Wales, Myrddin ap Dafydd, this book tells the forgotten and fascinating story of Pontypridd’s successful bid for the 1893 National Eisteddfod - beating the other bidders Neath, Llanelli and CHICAGO! The full story is told from the bidding process, to delivery of probably the greatest National Eisteddfod of the 19th century, to the aftermath – and there was an aftermath!


As well as the story of the 1893 National Eisteddfod, the author provides an outline of the historical development of the National Eisteddfod and an insight into Pontypridd being the centre of the Neo-Druidism movement. There is the backdrop of life in south Wales at the time too - social and economic growth but poverty and coalmining tragedy never far away.


The book is a very attractive publication with some unique images and maps, including original illustrations of the official opening on Pontypridd’s famous Rocking Stone and the chairing of the bard ceremony.


Sheldon Phillips said: “I am delighted to share this enthralling story of the 1893 National Eisteddfod in Pontypridd and to provide the opportunity for it to be properly remembered. I also hope I have managed to capture the 1893 Eisteddfod’s spine-tingling atmosphere and that this inspires everyone to get in involved in Rhondda Cynon Taf 2024.”


Chair of the 2024 Rhondda Cynon Taf National Eisteddfod, Helen Prosser, said, “We very much hope that the outcome of the 2024 National Eisteddfod will be very different to the festival held back in 1893, and that our Eisteddfod will long be remembered as one of the


best festivals, bringing people of all ages and backgrounds together to celebrate our language and culture in a vibrant, welcoming and inclusive way.


“We’re delighted to be part of this launch, as we celebrate that there’s only 500 days to go before the Eisteddfod opens here in Rhondda Cynon Taf. We congratulate Sheldon Phillips on his research and book, and look forward to celebrate the launch and success of such an interesting volume.”


‘No One Remembers Pontypridd’ will be launched at Pontypridd Museum from 530pm-730pm on Wednesday 22 March 2023. There will be an opportunity to purchase copies of the book signed by the author during the evening.


For more information on the Rhondda Cynon taf National Eisteddfod, go to www.eisteddfod.wales/2024.

Share

RECENT POSTS

By Pontypridd Museum 13 Oct, 2023
Palu am Fuddigoliaeth
By Pontypridd Museum 13 Oct, 2023
The Pit Pony’s Journey: From Pits to Paradise 
By Pontypridd Museum 07 Aug, 2023
Arddangosfa Gelf Flynyddol 2023 Annual Art Exhibition 202 3
Share by: